OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, CYMRU
Hadau, CYMRU
Rheoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn wedi ei gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017 i alluogi Gweinidogion Cymru i awdurdodi marchnata planhigion ffrwythau a deunyddiau lluosogi sy’n dod o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd o dan amgylchiadau penodol.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn wedi ei gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 i sicrhau bod y diwygiad a wnaed gan reoliad 2 yn parhau i weithredu’n effeithiol ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, CYMRU
Hadau, CYMRU
Rheoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
Gofynion sifftio wedi eu bodloni ***
Gwnaed ***
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ***
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a) mewn perthynas â Rhan 1, y pwerau a grybwyllir ym mharagraffau (b) ac (c);
(b) mewn perthynas â Rhan 2, adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]);
(c) mewn perthynas â Rhan 3, paragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([2]).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin([3]).
Mae gofynion paragraff 4 o Atodlen 2 (sy’n ymwneud ag ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol) a pharagraff 4(2) o Atodlen 7 (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol y Cynulliad ar gyfer y Rheoliadau hyn) i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 wedi eu bodloni.
RHAN 1
Cyflwyniad
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau
(Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE)
2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym fel a ganlyn—
(a) o ran y Rhan hon a Rhan 2, 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y gosodir y Rheoliadau hyn;
(b) o ran Rhan 3, yn union cyn y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2
Marchnata hadau a deunyddiau lluosogi planhigion: diwygio deddfwriaeth ddomestig
Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017
2. Yn Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017([4]), yn rheoliad 5, yn lle paragraffau (3) a (4) rhodder—
(3) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata deunyddiau planhigion o unrhyw wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd os ydynt wedi eu bodloni bod y deunyddiau planhigion wedi eu cynhyrchu o dan amodau sy’n cyfateb i’r gofynion yn y Rheoliadau hyn ar gyfer deunyddiau planhigion.
RHAN 3
Marchnata hadau a deunyddiau lluosogi planhigion: diwygio deddfwriaeth ddomestig o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd
Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
3.—(1)(1) Mae Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau
Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE)
2019([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(4), yn lle’r geiriau cyn y testun a fewnosodir, rhodder—
Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraff (3), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”;
(b) ar y diwedd mewnosoder—.
Enw
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad
([1]) 1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7). Mae wedi ei diddymu yn rhagolygol gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) o’r diwrnod ymadael (gweler y diffiniad o “exit day” yn adran 20 o’r Ddeddf honno).